Mae Gwasanaeth Tân y gogledd yn ceisio diffodd tân ar ystâd yn Llangefni bore ma.

Fe gafodd gwasanaethau Tân Gogledd Cymru eu galw i’r digwyddiad ym Maes Gwynedd yng Nghapel Coch, Llangefni am ddeng munud i chwech fore heddiw.

Roedd y tân wedi dechrau mewn tŷ ar y stad ac wedi lledu i’r to ac i fyngalo drws nesaf.

Cafodd  diffoddwyr tân o Langefni a Benllech eu hanfon i’r digwyddiad ond bu’n rhaid cael cymorth diffoddwyr o Borthaethwy a Rhosneigr ar ôl i’r tân ledu.

Chafodd neb eu hanafu.