Mae tri o Gwrdiaid yn ymprydio yng Nghasnewydd i dynnu sylw at driniaeth Llywodraeth Twrci o’u cydwladwyr.

Mae Furkan Doğan a Hüseyin Teki wedi bod yn ymprydio am gyfnodau byrion (2 ddiwrnod) ond mae Imam Sis bellach wedi bod yn ymprydio ers 5 diwrnod ac yn bwriadu parhau am gyfnod amhenodol.

Maen nhw’n cysgu yng Nghanolfan Gymunedol Gwrdaidd Casnewydd yn ardal Maendy.

“Mae’n bwysig bod pobl Cymru yn dangos cefnogaeth i’r Cwrdiaid, ac rydym yn annog pobl i ledaenu’r neges am y modd y mae Twrci’n cam-drin ein pobol,” meddai Imam Sis.

“Rydyn ni’n Gwrdiaid Cymreig yn falch o hynny. Rhaid i genhedloedd bychain ddangos cydsafiad â’i gilydd.”

Maen nhw’n cefnogi Leyla Guven, aelod seneddol dros blaid asgell chwith yr HDP, sy’n ymprydio ers mis ar ôl iddi gael ei charcharu gan wladwriaeth Twrci.

Mae hi’n galw am derfyn ar y polisi o ynysu a charcharu Abdullah Öcalan, un o sylfaenwyr plaid y PKK, sydd wedi bod yn y carchar ers 1999.

Llythyr

Mae llythyr o gefnogaeth i Leyla Güven, 54, wedi’i lofnodi gan nifer o Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Cynulliad Plaid Cymru.

Mae’n adrodd ei hanes ers iddi gael ei charcharu am gyfnod amhenodol ar Dachwedd 7.

Dydy Abdullah Öcalan ddim wedi gallu cyfarfod â’i gyfreithiwr ers 2011, a dydy e ddim wedi gweld ei deulu ers dwy flynedd.

Mae Leyla Güven yn y ddalfa ers mis Ionawr, ac mae hi’n wynebu cyfnod o 31 a hanner o flynyddoedd dan glo.

“Mae ynysu’n drosedd yn erbyn dynoliaeth,” meddai yn y trydydd gwrandawiad o’i hachos.

“Rwy’n aelod o’r bobol hyn. Rwy’n dechrau ymprydio am gyfnod amhenodol er mwyn protestio yn erbyn ynysu Mr Öcalan.”

Mae’r llythyr yn galw “ar y gymuned ryngwladol i godi ei llais ac ar i Gyngor Ewrop a’r Pwyllgor Atal Artaith i ymyrryd â llywodraeth Twrci i fynnu terfyn ar ynysu Abdullah Öcalan”.

“Pan fo dynes fel Leyla yn cael ei gyrru i’r weithred hon o hunanaberth gan hiliaeth, diffyg goddefgarwch a gwrthod ceisio ateb heddychlon i’r cwestiwn Cwrdaidd, rhaid i ni gael ein clywed,” ychwanega’r llythyr.