Charles Breslin
Bydd angladd un o’r glowyr fu farw ym mhwll glo Gleision yng Nghwm Tawe yn cael ei gynnal heddiw.
Bydd angladd Charles Breslin, o Gwm Tawe, yn amlosgfa Abertawe heddiw.
Ddoe cafodd y cwest i farwolaeth y pedwar glowr ei agor a’i ohirio yn Abertawe.
Bu farw Phillip Hill, 44, Garry Jenkins, 39, David Powell, 50, a Charles Breslin, 62, ar ôl i ddŵr lifo i’r pwll yng Nghilybebyll ger Pontardawe.
Fe ddigwyddodd y drasiedi ym mhwll Gleision ar 15 Medi ar ôl i’r gwasanaethau brys gael eu galw i ddigwyddiad yn y pwll. Roedd tri glowr wedi llwyddo i ddianc rhag y dŵr oedd yn llifo i’r pwll ar ôl i wal ddymchwel. Cafodd cyrff y pedwar glowr arall eu darganfod y diwrnod canlynol.
Mae Heddlu’r De a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn parhau i gynnal ymchwiliad i’r ddamwain. Disgwylir i’r ymchwiliad gymryd hyd at 12 wythnos i’w gwblhau.
Bydd angladd Phillip Hill, o Gastell-nedd, yn amlosgfa Margam ddydd Gwener, a chynhelir angladd Garry Jenkins, o Gwm Tawe, yng Nghapel Beulah, Cwmtwrch Isa ddydd Sadwrn a’r gladdedigaeth yn Ystradgynlais.
Dyw manylion angladd David Powell o Gwm Tawe heb eu cadarnhau hyd yn hyn.
Yn y cyfamser mae cronfa apel a sefydlwyd i helpu teuluoedd y glowyr wedi casglu dros £200,000.