Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio, wedi ymosodiad yng nghanol tref Hwlffordd neithiwr (nos Fercher, Rhagfyr 19).

Fe gafodd dyn 31 oed ei ddwyn i’r ddalfa, wedi’i amau o ymosod, yn dilyn y digwyddiad tua 8yh.

Fe gafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiad fod dau ddyn yn ymladd yn Sgwar y Castell, ac yna yn y County Hotel ac yn yr orsaf fysiau.

Mae un dyn wedi derbyn mân anafiadau, ac fe gafodd y ffordd ei chau am gyfnod yn yr ardal.