Nerys Evans - un o'r Comisiynwyr
Y cyn Aelod Cynulliad, Nerys Evans yw un o’r Comisiynwyr sydd wedi eu penodi i oruchwylio gwaith yr adran addysg yng Nghyngor Blaenau Gwent.

Mae cyn AC Plaid Cymru yn y Gorllewin a’r Canolbarth yn un o bedwar Comisiynydd a fydd yn gweithredu ar ran Llywodraeth y Cynulliad gan adrodd yn ôl i’r Gweinidog Addysg.

Fe fydd hi ac Alan Evans o Brifysgol Caerdydd yn Gomisiynwyr Ymgynghorol, yn cynorthwyo dau Gomisiynydd Addysgol – cyn Bennaeth Ysgol Gyfun Treorci, Bethan Guilfoyle, a chyn Brif Weithredwr Cyngor Wrecsam, Isobel Garner.

‘Gorfod gweithredu’

Fe ddywedodd y Gweinidog, Leighton Andrews, mai’r nod oedd gweithredu cyn gynted â phosib i wella pethau ar gyfer pobol ifanc a phlant ym Mlaenau Gwent.

Mewn datganiad yn y Cynulliad, fe ddywedodd ei fod wedi cael ei orfodi i weithredu  ym mis Gorffennaf ar ôl adroddiad beirniadol iawn gan y corff arolygu, Estyn.

Fe benderfynodd benodi Comisiynwyr i wneud y gwaith oedd ynghynt yn nwylo Cabinet y Cyngor ac fe fyddan nhw’n atebol i’r Cyngor lawn.

Roedd adroddiad Estyn yn dweud bod safonau addysg yn y fwrdeistref yn “anfoddhaol” ac nad oedd gan y cyngor y gallu i wella ohono’i hun.

Fe ddangosodd ffigurau swyddogol ynghynt y mis yma mai ym Mlaenau Gwent y mae’r lefelau ucha’ o chwarae triwant mewn ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig yng Nghymru.

Tan 2013

Fe fydd y drefn oruchwylio yn parhau tan fis Mawrth 2013 gyda’r Gweinidog yn ystyried eu gwaith bob pedwar mis.

Eu gwaith fydd datblygu strategaeth, gwella rheolaeth ac arolygaeth ysgolion, herio diffygion, gwella lefelau presenoldeb, gwela’r ddarpariaeth i blant ag anghenion arbennig a chynyddu canran y bobol ifanc tros 16 oed sydd mewn addysg, hyfforddiant neu waith.

Mae tasglu o swyddogion addysg o wahanol gynghorau hefyd yn gweithio o dan adain y Comisiynwyr.