Fe fydd pryderon ymgyrchwyr iaith dros ddiffyg Cofnod Cymraeg yn y Cynulliad yn cael eu rhannu gydag aelodau blaenllaw yn y Cynulliad cyn hir, wedi i’r pwyllgor deisebau drafod y mater y bore ’ma.

Mae dros 1,500  o enwau ar y ddeiseb erbyn hyn, yn galw am ddychwelyd i’r system o ddarparu cofnod cwbwl ddwyieithog o drafodaethau cyfarfodydd llawn y Cynulliad.

Mae’r ddeiseb wedi cael ei chynnig gan lefarydd grŵp hawliau Cymdeithas yr Iaith, Catrin Dafydd, sy’n dweud y dylai gwleidyddion wrando “ar y bobol sy’n galw am weld y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal yn ein corff democrataidd.”

Beirniadu penderfyniad

Mae Bwrdd yr Iaith hefyd wedi beirniadu penderfyniad y Cynulliad i ail-edrych ar yr orfodaeth i gadw cofnod ddwyieithog o’u trafodaethau.

Yn ôl Bwrdd yr Iaith, mae’r Cynulliad yn torri ei gynllun iaith ei hun drwy beidio darparu Cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion cyfarfod llawn y Cynulliad.

Dywedodd Catrin Dafydd ei bod hi’n “rhyfedd meddwl fod gwleidyddion sydd wedi sicrhau statws swyddogol i’r Gymraeg yn fodlon derbyn nad oes ganddi’r un statws yn eu siambr eu hunain.”

Ar hyn o bryd mae bwrdd rheoli’r Cynulliad yn cynnal ymgynghoriad ar gynlluniau a fyddai’n newid y gyfraith, ac yn golygu na fyddai’n orfodol i ddarparu’r dogfennau yn Gymraeg. Bydd yr ymgynghoriad hyn yn dod i ben ganol mis nesaf.

Ym Mhwyllgor Deisebau’r Cynulliad y bore ’ma, fe gytunodd aelodau y bydden nhw’n rhannu’r pryderon sydd wedi eu codi gyda’r Llywydd Rosemary Butler a’r AC Rhodri Glyn Thomas, sydd yn gyfrifol am bolisi iaith y Senedd.