Mae digwyddiadau’n cael eu cynnal yng Nghilmeri heddiw i gofio Llywelyn Ein Llyw Olaf.

Cafodd gwasanaeth coffa ei gynnal yn Eglwys Llanynys am 10 o’r gloch i ddechrau’r cyfan.

Ar ôl cinio yn Nhafarn y Tywysog Llywelyn am 1 o’r gloch, fe fydd yr orymdaith o’r fan honno am 2.30yp at y Garreg Goffa, lle bydd rali’n dechrau am 2.45yp.

Yn ystod y rali, fe fydd Geraint Roberts a Dave Peterson yn croesawu’r dorf, a fydd yn cyd-ganu Dros Gymru’n Gwlad cyn gwrando ar areithiau gwleidyddol.

Bydd Cantorion y Gymru Rydd yn canu ‘Yma o Hyd’ cyn darlleniad o’r gerdd ‘Cilmeri’ gan Gerallt Lloyd Owen.

Bydd sesiwn werin yn dilyn am 5yp yn Nhafarn y Tywysog Llywelyn, a Noson Lawen yn y Neuadd Arms yn Llanwrtyd.