Fe allai Cymru ddod yn “fflam olau mewn byd sydd yn prysur dywyllu”, yn ôl arweinydd newydd y Blaid Lafur yng Nghymru.
Wrth siarad yn Stadiwm y Principality ar ôl cyhoeddi canlyniad y bleidlais i ddewis arweinydd newydd, mae Mark Drakeford wedi dweud bod ei blaid yn “gryfach” yn sgil y ras i olynu Carwyn Jones.
Ac mae wedi cynnig blas o’i weledigaeth ar gyfer y dyfodol.
“Diolch am yr hyder yr ydych wedi dangos ynof i,” meddai Mark Drakeford wrth annerch ei blaid. “Y prynhawn yma dw i’n ymrwymo fy holl egni tuag at y ffeithiau sylfaenol.
“Sef y gallwn greu Plaid Lafur a Chymru sydd yn fflam olau mewn byd sydd yn prysur tywyllu. A gallwn greu dyfodol sydd o fudd i’r llu nid y llond llaw.”
Y ras
Yn siarad yn y digwyddiad dywedodd bod “ cael cefnogaeth cymaint o bobol eraill wedi bod yn fraint” gan dynnu sylw at gefnogaeth Aelodau Seneddol, undebau a changhennau etholaethol.
A dywedodd bod y blaid “cymaint o syniadau wedi’u cynhyrchu” gan yr ymgyrchu.
“Heb Vaughan ac Eluned fyddai hynny ddim wedi digwydd a hoffwn eu diolch am y ffordd gafodd yr ymgyrch ei gynnal,” meddai.