Roedd siom i Manw Lili o Rosgadfan yng nghystadleuaeth Junior Eurovision, wrth iddi orffen yn olaf yn y tabl gyda chyfanswm o 29 o bwyntiau yn Minsk.

Gwlad Pwyl ddaeth i’r brig gyda chyfanswm o 215 o bwyntiau ar ôl cyfri pleidleisiau’r panel a’r cyhoedd gyda’i gilydd.

Ond Awstralia oedd ar y brig ar ôl cyfri pleidleisiau’r panel.

Manw Lili

Chafodd Manw ddim pwyntiau gan y panel, ond gorffennodd gyda chyfanswm o 29 o bwyntiau ar ôl cyfri pleidleisiau’r cyhoedd.

Canodd y gân ‘Berta’ gan Yws Gwynedd yn y rownd derfynol, gyda dawnswyr Anti Karen o Gaernarfon yn ei chefnogi.

Roedd pleidleisiau ar y we yn cyfrif am hanner y cyfanswm o bleidleisiau, a’r hanner arall wedi’u penderfynu gan reithgorau cenedlaethol o dri o bobol broffesiynol ym maes cerddoriaeth, a dau o blant.