Mae gwleidydd yn galw ar yr Ysgol Feddygol newydd fydd yn dod i Fangor, i gydweithio gyda chanolfannau tebyg yn Lerpwl a Manceinion.

Fe gadarnhaodd y Llywodraeth yn y Senedd wythnos o hon y bydd ysgol feddygol yn cael ei sefydlu ym Mhrifysgol Bangor, mewn partneriaeth gyda Phrifysgolion Abertawe a Chaerdydd.

Ond er iddo groesawu hyn, mae AC Gogledd Cymru’r Ceidwadwyr, Mark Isherwood, yn gofyn i’r Llywodraeth ymateb i ofynion parhaus Pwyllgor Meddygol Lleol Gogledd Cymru i gael cysylltiad gyda’r ysgolion meddygol yng ngogledd Lloegr.

“Mae 18 mis ers i mi ofyn i’r Prif Weinidog i sicrhau bod achos busnes Ysgol Feddygol Bangor yn cynnwys deialog gydag Ysgol Feddygol Lerpwl,” meddai Mark Isherwood.

Yn y gorffennol daeth nifer o feddygon teulu’r gogledd o ysgolion meddygol Lerpwl a Manceinion, yn ôl Mark Isherwood, ond bod llai erbyn hyn, gan arwain at lai o feddygon teulu.

Yn y Senedd yr wythnos hon, fe ofynnodd Mark Isherwood: “Sut ydych chi’n ymateb i’r galwadau parhaus gan Bwyllgor Meddygol Lleol Gogledd Cymru i ymgorffori’r cysylltiadau ac, felly, adfer cyflenwad meddygon ifanc newydd i ogledd Cymru o fanno?”

Atebodd Ysgrifennydd Addysg y Cabinet, Kirsty Williams: “Nid wyf yn bersonol wedi bod yn ymwneud â’r trafodaethau hynny gyda’r darparwyr ar draws y ffin. Fy mlaenoriaeth i yw cefnogi’r gwaith dwys sy’n digwydd rhwng Prifysgolion Caerdydd a Bangor.”

Cefndir y creisus

Mae’r creisus yn ymwneud â diffyg meddygon teulu yng ngogledd Cymru wedi bod yn destun trafod ers amser hir gyda phryderon mawr ynglŷn â’u niferoedd yn gostwng yn sydyn.

Fe rybuddiodd cadeirydd y Pwyllgor Meddygol Lleol Gogledd Cymru, Dr Eamonn Jessup, flwyddyn ddiwethaf mewn llythyr i Aelodau Seneddol bod risg i’r mwyafrif yn y Gogledd golli eu meddyg teulu.

Esboniodd bod meddygon teulu yn ymddeol o ganlyniad i lwythi gwaith uchel – gan adael llawer o’r meddygfeydd yn wag.

Mae’r Pwyllgor rŵan wedi galw ar y Llywodraeth i sefydlu cysylltiadau rhwng ysgolion meddygol Lerpwl a Manceinion er mwyn ceisio annog eu doctoriaid i ddod i Ogledd Cymru.

Ymateb  Llywodraeth Cymru 

“Mae ein hymgyrch Hyfforddi Gweithio Byw wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y meddygon teulu dan hyfforddiant sy’n dod i Gymru, ac mae’r tri chynllun hyfforddi arbenigol yn y gogledd hefyd wedi gweld gwelliant yn eu gallu i lenwi’r llefydd hyfforddi.
“Rydyn ni wedi cytuno ar ddull gweithio ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor, a fydd yn golygu bod mwy o fyfyrwyr meddygaeth yn astudio yn y gogledd, ac hefyd yn darparu llwybr i alluogi meddygon i dderbyn eu holl hyfforddiant yn y gogledd.”