Mae heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth dynes oedrannus mewn siop sglodion, wedi arestio dyn 70 oed ar amheuaeth o lofruddio.
Bu farw Mavis Bran, 69, ar ôl cael ei llosgi mewn digwyddiad yn siop sglodion Hermon, ger Crymych.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 1.30 y prynhawn Hydref 23, a chafodd y wraig ei chludo i Ysbyty Treforys, lle bu farw’n ddiweddarach.
Roedd y dyn oedrannus eisoes wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad a’i rhyddhau ar fechnïaeth.
Bellach mae’r dyn yn y ddalfa.