Bydd y cynllun ‘Fy Ngherdyn Teithio’, sy’n cynnig teithiau bysus rhatach i bobol ifanc, yn cael ei ymestyn i gynnwys pawb rhwng 16 a 21 oed yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae’r cynllun, a ddechreuodd yn 2015, yn cynnig gostyngiad ar draean pris y tocyn bws ar gyfer pobol ifanc rhwng 16 a 18 oed.
Ond yn ôl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Llun, Tachwedd 12), bydd y cynllun yn cael ei ymestyn i gynnwys mwy o bobol o fis Rhagfyr ymlaen.
Maen nhw hefyd yn dweud bod y cynllun am barhau tan fis Mawrth 2020.
‘Annog mwy i ddefnyddio bysus’
“Bydd gwelliant heddiw i’r cynllun Fy Ngherdyn Teithio nid yn unig yn helpu pobol ifanc sy’n hyfforddi neu mewn prentisiaethau, ac yn ystod y cyfnod o newid i fyd gwaith, ond bydd gobeithio hefyd yn annog mwy o bobol ifanc i ddefnyddio bysiau ar gyfer mwy o’u teithiau,” meddai’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates.
“Yn y ffordd yma, byddan nhw’n helpu i fynd i’r afael â thagfeydd ac ansawdd yr aer yn ein trefi a’n dinasoedd.”