Catherine a Ben Mullany
Bydd llofruddion Ben a Catherine Mullany yn cael eu dedfrydu yfory, ac mae’n bosib y byddwn nhw’n wynebu’r gosb eithaf.

Cafwyd Kaniel Martin, 23, ac Avie Howell, 20, yn euog ym mis Gorffennaf o lofruddio’r pâr priod oedd ar eu mis mêl yn Antigua.

Mae Twrnai Cyffredinol y wlad, Justin Simon QC, wedi wfftio awgrym fod Llywodraeth Prydain wedi mynnu nad yw’r dynion yn cael eu crogi.

Roedd Heddlu’r Met wedi helpu â’r ymchwiliad yn dilyn marwolaethau Ben a Catherine Mullany, myfyriwr ffisiotherapi a doctor, yn oriau mân y bore ar 27 Gorffennaf 2008.

Does neb wedi ei grogi ar yr ynys ers mis Chwefror 1991.

Roedd y pâr priod wedi bod yn Antigua ar bythefnos o fis mêl wedi eu priodas yn Eglwys Sant Ioan yr Efengylwr yng Nghilybebyll ar 12 Gorffennaf.

Bu farw Catherine Mullany yn syth ar ôl cael ei saethu yn ei phen. Bu farw ei gŵr deuddydd yn ddiweddarach, ar ôl iddo gael ei hedfan yn ôl i Gymru ar beiriant cynnal bywyd.

Dros flwyddyn yn ddiweddarach, ym mis Awst 2009, cyhuddwyd Kaniel Martin ac Avie Howell o lofruddio Ben a Catherine Mullany, cyn wynebu cyhuddiad arall o ladd y perchennog siop 43 oed, Woneta Anderson.

Roedd y ddau ddiffynnydd wedi gwrthod ateb unrhyw gwestiynau yn y llys ac wedi honni eu bod nhw’n ddieuog drwy gydol yr achos deufis o hyd.

Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd dros 90 o lygaid-dystion wedi rhoi tystiolaeth.

Cafwyd y ddau yn euog gan reithgor yn Uchel Lys Antigua yn St John’s ar 28 Gorffennaf.