Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Nid yw’r deddfau mae Llywodraeth Lafur Bae Caerdydd yn bwriadu eu pasio yn “atebion naturiol” i’r problemau sy’n wynebu Cymru.

Dyna ddywed Syr Emyr Jones Parry, Cadeirydd yr ymchwiliad wnaeth argymell y refferendwm ar fwy o rym i’r Cynulliad Cenedlaethol fis Mawrth.

Yn ôl Syr Emyr roedd prif bleidiau Cymru  yn “rhyfeddol o gyndyn” wrth drafod sut redden nhw am ddefnyddio’r grymoedd newydd.

“Hwyrach nad ydy’r blaenoriaethau [yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru] yn atebion naturiol i’r problemau sy’n wynebu Cymru,” meddai.

“Mae hynny’n ffordd ddiplomataidd iawn o ofyn os ydy economi Cymru, os ydy anghenion Cymru o ran sgiliau, os ydy anghenion addysgol Cymru…os ydan ni’n meddwl bod y pethau hyn i gyd yn mynd i gael eu cryfhau gan yr angen i gael lonydd seiclo ac un rhwydwaith ar hyd a lled Cymru.

“Dw i ddim wir yn siwr eu bod nhw’n taro’r nod.”

Yn ôl Syr Emyr, adeg ymgyrch y refferendwm roedd y pedair brif blaid wedi bod yn “rhyfeddol o gyndyn ynghylch yr hyn roedden nhw eisiau ei wneud. Wnes i ofyn i’r pedair plaid a chael hanner ateb gan un ohonyn nhw.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd y grymoedd deddfu newydd, heb orfod gofyn am ganiatâd Llywodraeth Prydain, yn cael eu defnyddio fel bo’r angen.