Prifysgol Glyndwr
Mae Prifysgol Glyndwr yn Wrecsam yn bwriadu aros yn annibynnol, er gwaetha’r argymhellion diweddar i’w uno gyda Phrifysgolion Bangor ac Aberystwyth.
Roedd awgrym Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru y dylai Glyndwr ddod dan adain Prifysgolion eraill wedi cythruddo sawl Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol yng ngogledd ddwyrain Cymru.
Yn ôl AS Wrecsam Ian Lucas roedd y cynigion yn dangos “anwybodaeth ddybryd” o anghenion lleol.
Mae’r Cyngor Cyllido wedi cyflwyno cynllun i’r Gweinidog Addysg Leighton Andrews sy’n argymell cwtogi’r nifer o Brifysgolion yng Nghymru o 11 i chwech.