Mae dyn roddodd ddwrn i feiciwr wedi ei garcharu am ddwy flynedd.
Roedd y beiciwr Gareth Marshall yn anhapus gyda’r ffordd wnaeth Darren Hefferman, 38, yrru heibio iddo ar lôn yng Nglyn Ebwy.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd bod Darren Hefferman wedi disgwyl am Gareth Marshall yn bellach i lawr y lôn, cyn taro’r beiciwr gan achosi iddo fynd yn sownd o dan fan oedd yn pasio.
Plediodd Darren Hefferman yn euog i gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol ar ôl yr ymosodiad ar Ionawr 11.
Clywodd y llys fod Gareth Marshall wedi dioddef nifer o anafiadau i’w asennau, ysgyfaint, ei belfis a’i glun.
Yn ei ddatganiad i’r llys, esboniodd y seiclwr ei fod wedi colli ei holl ffitrwydd a’i hyder, a’i fod yn “methu â gwneud y pethau symlaf” yn dilyn y digwyddiad.
Wrth ddedfrydu Darren Heffermann i garchar, dywedodd y Barnwr Richard Williams: “Roedd dy ymddygiad yn drahaus, yn dwp ac yn anoddefgar.”