Izaak Stevens, un o'r plant fu farw
Roedd mam feichiog fygodd ei phlant cyn ei lladd ei hun wedi gadael nodiadau oedd yn awgrymu ei bod hi “wedi cael digon ar fywyd”, clywodd cwest i’w marwolaeth heddiw.

Clywodd y Crwner fod Melanie Stevens, 36, wedi defnyddio clustog er mwyn mygu Izaak, dwy oed, a Philip, pump oed, yn eu gwelyau.

Daethpwyd o hyd i Melanie Stevens, oedd yn feichiog ers 26 wythnos â bachgen, wedi ei chrogi o ddrws eu hystafell wely yn eu cartref yn Nhrawsfynydd, Gwynedd, ar 19 Rhagfyr y llynedd.

Clywodd y Crwner Dewi Pritchard Jones yn y cwest yng Nghaernarfon heddiw fod dau heddwas wedi dod o hyd i’r cyrff ar ôl gorfodi eu ffordd i mewn i’r adeilad.

Roedd cymdogion wedi codi pryderon ar ôl sylweddoli nad oedd unrhyw sôn am y teulu.

Roedd plant eraill y fam i bump yn saff yng nghartref perthynas.

Dod o hyd i’r cyrff

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd yr heddwas Adrain Wyn Owen fod car Melanie Stevens wedi ei barcio y tu allan i’r tŷ ond nad oedd perthnasau wedi gallu cysylltu.

Ar ôl ymweld â’r tŷ brynhawn ddydd Sadwrn, dychwelodd am 8pm gyda heddwas arall, Raymond Williams.

Penderfynodd y ddau gicio’r drws i lawr, meddai.

Y tu mewn gwelodd y ddau fod yr adeilad yn daclus a bod anrhegion Nadolig wedi eu gosod o dan y goeden.

Fe aeth Raymond Williams i fyny’r grisiau a dod o hyd i gorff Melanie Stevens yn hongian yn y drws.

Y tu hwnt roedd cyrff y bechgyn yn eu gwlâu â’r blanced wedi ei dynnu i fyny hyd at eu hysgwyddau.

Roedd y clustogau oedd wedi eu defnyddio i’w lladd nhw wedi eu gosod o dan y gwely, clywodd y cwest.