Mae cerddor o Batagonia yn dweud bod yr arbrawf o ddod â’i deulu i Gymru am gyfnod o chwe mis wedi “gweithio’n ardderchog”.
Mae Alejandro Jones o Drevelin yn dod at ddiwedd ei gyfnod yng Nghymru wedi haf prysur o berfformio ledled y wlad a gweithio ar ffermydd. Bydd yn dychwelyd i’r Wladfa yr wythnos nesaf (dydd Iau, Hydref 18).
Bwriad ei ymweliad â Chymru oedd rhoi’r cyfle i’w wraig a’i ddau o blant “foddi yn y diwylliant Cymraeg”, ac mae’n dweud bod pob un ohonyn nhw wedi “mwynhau’n arw”.
“O ran y diwylliant, mae wedi gweithio’n ardderchog,” meddai wrth golwg360. “Bydd y plant yn mynd yn ôl ac yn cadw’r profiad mewn lle arbennig.
“Efallai nad ydyn nhw’n mynd i allu siarad Cymraeg fel y maen nhw yma [yng Nghymru], ond mae yna ryw had wedi’i blannu.”
Cysylltu â’r gymdeithas Gymraeg
Yn ystod y chwe mis, bu Bryn, mab 10 oed Alejandro Jones, yn mynychu Ysgol OM Edwards yn Llanuwchlyn, tra bo ei ferch 18 oed, Luciana, yn gwirfoddoli yng Ngwersyll yr Urdd Glan-Llyn.
“Maen nhw’n falch iawn o fod â chysylltiad â chymdeithas sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf,” meddai.
“Maen nhw wedi gweld bod y Gymraeg yn gallu bod yn cŵl hefyd, a gweld bod plant yn gallu mynd â’r Gymraeg allan o’r swydd neu allan o’r dosbarth ac yn dal i’w siarad fel ffordd o fyw.”
Dychwelyd eto?
Er mai tymor yr hydref yw hi yng Nghymru ar hyn o bryd, bydd y cerddor a’i deulu’n dychwelyd i Batagonia ar adeg pan fo’r haf yn ei anterth.
Mae’n dweud bod ei fferm deuluol a’i hen swydd yn aros amdano yno, sef tywysydd pysgota a heliwr ar hyd afonydd a mynyddoedd y Wladfa.
Ond wrth ei holi a fydd ef a’i deulu’n dychwelyd i Gymru yn y dyfodol, ymateb Alejandro Jones yw ei bod yn “anodd dweud rŵan”.
“Byddwn i wrth fy modd, ond mae dod am chwe mis ddim yn hawdd o gwbwl.
“Dw i’n meddwl gyda’r teulu i gyd, dyma’r unig dro. Ond bydd y plant yn gallu dod ar eu pennau eu hunain, ac fe fyddaf i a’r wraig yn dod ein hunain.”