Bu farw cyn-Aelod Seneddol Llanelli, Denzil Davies, yn 80 oed.
Cafodd ei ethol i gynrychioli’r etholaeth yn 1970 ac fe dreuliodd 35 mlynedd yn y swydd cyn ymddeol yn 2005.
Roedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar feinciau’r wrthblaid San Steffan yn ystod cyfnod Margaret Thatcher yn brif weinidog, a bu’n weinidog yn y Trysorlys yn y 1970au.
Yn enedigol o Gynwyl Elfed, Sir Gaerfyrddin, aeth ati i astudio’r Gyfraith yn Rhydychen a darlithio ar y pwnc, cyn troi at fyd gwleidyddiaeth.
Mae ffigyrau o fewn y Blaid Lafur wedi talu teyrngedau iddo, gyda’r Aelod Cynulliad, Lee Waters, yn ei alw’n “ddyn gwych” ac Aelod Seneddol.Ynys Môn, Albert Owen, yn ei ganmol am ei “feddwl craff”.