Mae S4C wedi dweud wrth Golwg360 fod trafodaethau rhyngddynt, y DCMS ac Ymddiriedolaeth y BBC “yn mynd yn eu blaen.”

Daw hyn wedi i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ofyn i reolwyr S4C “ymuno a chodi llais gan dynnu allan o drafodaethau gyda’r BBC.”

“S4C fydd y brawd bach a fydd yn cael ei ddiystyru bob tro,” meddai’r Gymdeithas.

Dywedodd Cadeirydd y  Gymdeithas mewn llythyr at Huw Jones, Cadeirydd S4C: “Mae’n gliriach nag erioed bod y sianel fel darlledwr yn annibynnol ar fin diflannu. Rydym wedi dweud ers cyhoeddi’r cynllun gwreiddiol na fyddai S4C yn cadw’i hannibyniaeth, ond mae hynny’n fwy sicr nag erioed o dan y penderfyniadau diweddaraf”.

‘Annibyniaeth weithredol a golygyddol yn bwysig i S4C’

Ymhen pedair blynedd, y BBC fydd yn dweud faint o arian fydd gan S4C i’w wario ar raglenni. Dyna sydd lawr mewn cytundeb rhwng y BBC a Llywodraeth Prydain, sydd wedi ei gyhoeddi gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Ond, fe ddywedodd llefarydd ar ran S4C wrth Golwg360 heddiw bod trafodaethau rhyngddynt â’r DCMS ac Ymddiriedolaeth y BBC “yn mynd yn eu blaen.”

“Mae annibyniaeth weithredol a golygyddol o dan unrhyw drefniant newydd gydag Ymddiriedolaeth y BBC yn bwysig i S4C ac i’n cynulleidfa,” meddai’r llefarydd.