Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cychwyn ymchwiliad i achos o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn mewn maes carafanau yn Sir Gaerfyrddin.

Fe gafod yr heddlu eu galw i Faes Carafanau’r Grove ym Mhentywyn am tua deg o’r gloch y bore yma (dydd Gwener, Medi 28).

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, ac mae’n parhau yn y ddalfa.

Does dim gwybodaeth wedi cael ei ryddhau eto ynglŷn â phwy oedd y dyn a fu farw.