Bydd £3.2m yn ychwanegol yn cael ei roi i’r diwydiant pysgod, yr amgylchedd a’r diwydiant bwyd, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae hyn yn ychwanegol i’r swm o £6m sydd eisoes wedi’i roi i’r diwydiannau hyn drwy’r Gronfa Bontio’r Undeb Ewropeaidd, sy’n helpu paratoi diwydiannau yng Nghymru ar gyfer Brexit.

Cafodd y gronfa, sy’n werth £50m, ei gyhoeddi gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yr wythnos hon.

Yn ôl yr Ysgrifennydd dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, mae’n bwysig bod diwydiannau’n rhoi eu hunain yn y “sefyllfa orau bosibl” wrth i Brexit agosáu.

Cymorth

“Gwyddwn y bydd ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn arbennig o anodd i’r diwydiant pysgota a’r diwydiant bwyd,” meddai Lesley Griffiths.

“Bydd y cyllid a gân nhw drwy’r gronfa hon yn helpu i sicrhau eu bod yn manteisio i’r eithaf ar unrhyw gyfleoedd a ddaw i’r amlwg, eu bod yn parhau i fedru cystadlu wrth i farchnadoedd newid, a’u bod yn ffynnu mewn byd ar ôl Brexit.

Rhannu’r arian

Bydd y £3.2m yn cael ei rannu i’r diwydiannu fel hyn:

o £1.2m ar gyfer cefnogi gwaith ymchwil ar reoli pysgodfeydd yn y dyfodol;

o £700,000 yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu brand a fydd yn tynnu sylw at gynnyrch o Gymru wrth i’r diwydiant newid;

o £700,000 i Gyfoeth Naturiol Cymru i’w helpu i sefydlu trefniadau pontio ar gyfer trwyddedau ac i fynd i’r afael â heriau Brexit;

o £550,000 i helpu fodloni rheolau llym Ewrop ar ddeunyddiau pecynnau pren sy’n dod o’r Undeb Ewropeaidd o wledydd eraill;

o £96,000 yn helpu i ddiwallu’r angen am Dystysgrifau Iechyd Allforio er mwyn allforio cynnyrch sy’n dod o anifeiliaid o Gymru i Ewrop – os bydd y Deyrnas Unedig yn gadael y farchnad sengl.