Mae modd prynu pentref cyfan yn Nyffryn Dyfi am yr un pris â thŷ yn Llundain erbyn hyn.

Fe gafodd 16 o dai a thir amaethyddol ym mhentref chwarel Aberllefenni ger Machynlleth eu rhoi ar y farchnad am y tro cyntaf yn 2016 am bris o £1.5m. Ond erbyn hyn mae’r arwerthwyr, Dafydd Hardy, wedi torri £250,000 oddi ar y pris gwreiddiol ar ôl i neb ddangos diddordeb.

Mae’r arwerthwyr yn hysbysebu’r clwstwr o dai fel “buddsoddiad da” gyda “incwm sefydlog o renti”.

“Mae’r portffolio wedi’i leoli yn uchel yn Dyffryn Dyfi yn yr ardal wledig hon o ganolbarth Cymru,” medden nhw. “Mae pentref Aberllefenni yn cael ei amgylchynu gan gefn gwlad prydferth ynghanol llethrau coediog Coedwig Dyfi.”

Pentref hanesyddol

Cafodd y pentref ei adeiladu o gwmpas y diwydiant chwareli yn yr ardal, lle mae dyn wedi bod yn cloddio am y garreg las ers y 16eg ganrif.

Teulu John Lloyd o Waith Llechi Inigo Jones oedd yn berchen ar chwarel Aberllefenni a thai’r gweithwyr o’r 1960au ymlaen, tan iddyn nhw gau’r chwarel yn 2003.

Penderfynodd y perchnogion werthu’r cyfan o’u heiddo yn Aberllefenni yn 2016.