Fyddai penodi arweinydd newydd “ddim yn ddigon” i ddod â’r anghydfod i ben rhwng penaethiaid Plaid Cymru a chyn-aelodau yn Llanelli.

Dyna farn un o hoelion wyth y blaid yn yr etholaeth, Gwyn Hopkins, a gafodd ei wahardd y llynedd ac sydd bellach wedi gadael y blaid.

Mae’n cyhuddo arweinydd y Blaid, Leanne Wood; eu Prif Weithredwr, Gareth Clubb; eu cadeirydd, Alun Ffred Jones; ac ymgeisydd Llanelli, Mari Arthur; o wneud pethau “cwbwl anfaddeuol”.

Ac mae’n mynnu y byddai’n rhaid iddyn nhw gael eu disodli er mwyn dod â’r anghydfod i ben yn llwyr. Er hynny, mae’n cydnabod bod penodi arweinydd newydd yn gam at gymodi.

“Fydde fe ddim yn ddigon, ond bydde fe’n mynd peth o’r ffordd,” meddai wrth golwg360. “Dw i wedi dweud wrth y blaid yn union beth yw’r amodau.

“Bydden ni eisiau gweld Leanne Wood, Gareth Clubb ac Alun Ffred Jones mas o’u swyddi presennol, a Mari Arthur yn paco’i bags ac yn mynd yn ôl i Gaerdydd.

“Achos sdim gobaith cath gyda hi, ennill yn Llanelli fan hyn. Mae wedi codi gwrychyn gymaint o bobol. Mae deugain o bobol wedi ymddeol. Dyw hynna ddim yn arwydd da am y dyfodol, fydden i’n dweud.”

Daw’r sylwadau wedi i gyn-aelod arall, Mary Roll, a dweud wrth golwg360 y “gallai’r hollt gael ei gau” dan yr amodau cywir.

Y cefndir

Fe gafodd cangen cyfan Plaid Cymru yn Llanelli eu gwahardd ym mis Chwefror y llynedd, wedi’u cyhuddo o beri niwed i enw’r blaid.

Roedd aelodau’r gangen yn anhapus â phenodiad Mari Arthur yn ymgeisydd ar y rhanbarth, ac am weld y cynghorydd lleol, Sean Rees, yn cynrychioli Llanelli yn etholiad cyffredinol 2017.

Mae sawl cyn-aelod o’r gangen wedi gadael y blaid, ac mae ambell un wedi mynd ati i ffurfio Fforwm Llanelli – platfform trafod “niwtral”, medden nhw.

Mae golwg360 wedi holi i Blaid Cymru am ymateb.