Mae pobol yn cael eu rhybuddio i fod yn ofalus wrth ddefnyddion diodydd egni heddiw, yn arbennig wrth eu cymysgu ag alcohol.

Mae Alcohol Concern Cymru yn rhybuddio pobol fod diodydd egni yn gallu cuddio effeithiau meddwol alcohol, yn dilyn astudiaeth sy’n awgrymu bod cymysgu diodydd egni ag alcohol yn debygol o wneud rhywun yn fwy parod i ystyried eu hunain yn sobor.

“Yr hyn sydd fwyaf peryglus, efallai, yw bod yfed llawer o gaffein yn ein hadfywio ni, a gall hyn guddio effeithiau alcohol, sy’n arafu’r corff a’r meddwl,” meddai Andrew Misell o’r elusen.

“Gall pobol sy’n yfed diodydd egni gydag alcohol deimlo’n effro iawn heb sylweddoli pa mor feddw ydyn nhw.”

Daeth astudiaeth yn yr Unol Daleithiau i’r casglaid yn ddiweddar bod myfyrwyr oedd yn yfed alcohol gyda diodydd egni bedair gwaith yn fwy tebygol o fwriadu gyrru eu ceir ar ôl yfed na’r rhai oedd wedi yfed alcohol heb ddiodydd egni.

“Ac mae’n bosib nad yw pobl yn sylweddoli faint o gaffein maen nhw’n ei yfed,” ychwanega.

Yn ôl yr ystadegau, mae un can 500ml o ddiod egni gyffredin fel Rockstar, Relentless neu Monster yn cynnwys 160mg o gaffein – sy’n gymaint ag espresso dwbl neu bum can o Coca-cola.

Peryglon iechyd

Dywed Andrew Misell bod hefyd problemau iechyd posib yn codi o yfed diodydd egni ar y cy dag alcohol.

“Mae caffein ac alcohol yn ddiwretigion – maen nhw’n gwneud i ni basio dŵr – felly mae cymysgu diodydd egni ac alcohol yn gallu ein gadael yn ddifrifol o sychedig. Gall hyn arwain at chwydu a phen tost, a phroblemau iechyd eraill yn y tymor hir.”

Ac mae’r canfyddiadau yn cael cefnogaeth Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell.

“Mae cymysgu diodydd caffein ac alcohol yn beryglus, yn enwedig os yw pobl yn yfed gormod ohonynt,” meddai.

“Yn ogystal â chynyddu’r risg o gael clefyd y galon a chyflyrau eraill yn sgil camddefnyddio alcohol, mewn llawer o achosion mae diodydd egni hefyd yn cynnwys lefelau uchel o siwgr, cymaint â 6 llwy de mewn tun bach, a llawer o galorïau. Gall hyn hefyd gynyddu’r risg o ordewdra a phydredd dannedd.”

Bethan Jenkins – ‘dim digon o ymchwil eto’

Yn ôl yr Aelod Cynulliad Bethan Jenkins, mae hefyd angen i bobol fod yn ofalus wrth ddefnyddio diodydd egni gan eu bod nhw’n parhau i fod yn ddiodydd gweddol newydd ar y farchnad.

“Dylai pobl gofio mai pethau cymharol newydd yw’r diodydd egni hyn,” meddai, “felly nid oes ymchwil ar gael ar hyn o bryd sy’n dangos yr effaith y gall yfed y diodydd hyn ei chael arnoch yn y tymor hir.

“Rwy’n gobeithio y bydd y ffeithiau cignoeth mae Alcohol Concern Cymru wedi’u cyflwyno am ddadhydradu eithafol yn peri i bobl gymryd cam yn ôl ac ystyried pa niwed y gallent fod yn ei wneud i’w hunain.”

Mae’r elusen nawr yn ceisio perswadio cynhyrwchwyr y diodydd o fod yn fwy gofalus wrth marchnata eu diodydd egni, gan hysbysebu’r peryglon o’u cymysgu ag alcohol.