Mae Nant Gwrtheyrn a’r ardal leol yn Llŷn yn “lwcus iawn” o gael ei gilydd, meddai darpar Archdderwydd Gorsedd y Beirdd.
Aelod newydd o Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn yw Myrddin ap Dafydd, a hynny ers mis Hydref y llynedd.
Mae’n dweud bod y ganolfan iaith yn ffodus o gael atyniadau a busnesau wrth stepen ei drws er mwyn denu’r dysgwyr o’r dosbarthiadau i “ymarfer yr hyn maen nhw wedi ei ddysgu yn yr ardal leol.”
Yn yr un modd, mae’n dweud bod Llŷn yn ffodus o gael y ganolfan, wrth iddi ddefnyddio cynnyrch lleol a denu “math o ymwelwyr sydd â diddordeb mewn hanes a threftadaeth.”
Mae hefyd yn “gyflogwr arbennig o bwysig yn yr ardal,” meddai.