Mae mab yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi ei ddedfrydu i garchar am wyth mlynedd ac wyth mis.

Fe gafodd Jonathan Drakeford, 31 oed, ei ganfod yn euog o dreisio ac achosi niwed corfforol i berson.

Fe glywodd Llys y Goron Caerdydd ei fod yn awtistig, gyda’i gyfreithiwr yn dweud ei fod mewn cyflwr “bregus iawn”.

Bydd hanner ei ddedfryd yn cael ei threulio yn y carchar, cyn y bydd yn cael ei ryddhau ar drwydded.

Mae ei dad, Mark Drakeford, eisoes wedi sôn am y “cyfnod anodd iawn” y mae ef ai’i deulu wedi gorfod ei wynebu ers cychwyn yr achos.

“Mae’r teulu wedi profi cyfnod anodd iawn,” meddai. “Cydymdeimlwn â phawb sydd wedi’u heffeithio, yn enwedig y person a gafodd ei dargedu.”