Mae grŵp o ymgyrchwyr iaith wedi dechrau gwylnos heno o flaen pencadlys S4C i dynnu sylw at y bygythiadau i’r sianel.

Fe fydd ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg hefyd yn galw ar i reolwyr y sianel “sefyll i fyny yn erbyn cynlluniau’r BBC a’r Llywodraeth a ddaw â’r sianel fel darlledwr annibynnol i ben.”

Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd y BBC a’r Llywodraeth gytundeb newydd a fydd yn golygu y bydd gan y gorfforaeth reolaeth lwyr dros gyllideb S4C wedi 2015.

‘Ar fin diflannu’

Dywedodd Cadeirydd y  Gymdeithas mewn llythyr at Huw Jones, Cadeirydd S4C: “Mae’n gliriach nag erioed bod y sianel fel darlledwr yn annibynnol ar fin diflannu. Rydym wedi dweud ers cyhoeddi’r cynllun gwreiddiol na fyddai S4C yn cadw’i hannibyniaeth, ond mae hynny’n fwy sicr nag erioed o dan y penderfyniadau diweddaraf.”

“Mae’r BBC ei hun yn wynebu toriadau felly bydd yn anodd iawn i’r gorfforaeth ariannu’r sianel, o gael pennu’r gyllideb – beth fydd yn gwarchod buddiannau S4C? Bydd S4C yn cystadlu am gyllideb gyda rhaglenni Saesneg y BBC a does dim disgwyl y bydd y gorfforaeth yn ystyried sianel mae wedi’i llyncu dros ei chynnyrch ei hun.”

Hefyd, fe ddywedodd  Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith yn y llythyr fod y “llywodraeth a’r BBC wedi dangos eisoes nad ydynt yn ystyried nac yn parchu’r sianel na Chymru – nid oeddech yn gwybod am y penderfyniad yma nes iddo gael ei ryddhau yn gyhoeddus…”

‘Tynnu allan’

Mae’n mynd ati i ofyn i reolwyr S4C “ymuno a chodi llais gan dynnu allan o drafodaethau gyda’r BBC. S4C fydd y brawd bach a fydd yn cael ei ddiystyru bob tro.”

“Wrth edrych i’r dyfodol rhaid  sicrhau y bydd y sianel yn ffynnu ac yn gallu cynnig y ddarpariaeth orau i’w chynulleidfa,” meddai Bethan Williams.

“Er mwyn galluogi hynny gofynnwn i chi alw ar y llywodraeth i dynnu’r sianel o’r Mesur Cyrff Cyhoeddus er mwyn gwarchod plwraliaeth ac annibyniaeth darlledu yma yng Nghymru.

“Tynnwyd Channel 4 o’r Mesur felly nid oes rheswm na ddylid gwneud yr un peth i S4C. Byddai gwneud y ddau beth hyn yn rhoi neges glir i lywodraeth San Steffan a’r BBC – nad yw S4C yn fodlon cael ei sathru a bod y sianel yn fodlon brwydro dros ddyfodol darlledu yng Nghymru a thros ei chynulleidfa.”