Carwyn Jones
Nid dyma’r amser i roi atebion ynglyn a sut y digwyddodd y ddamwain a laddodd pedwar glowr yng Nghwm Tawe.

Dyna ddywedodd  Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wrth roi teyrnged i’r pedwar glöwr fu farw ym Mhwll Glo Gleision ger Pontardawe.

Cafwyd hyd i gyrff Phillip Hill, 45 o Gastell-nedd, Charles Breslin, 62, David Powell, 50, a Garry Jenkins, 39, y tri o Gwm Tawe, ddydd Gwener.

Y prynhawn ma bu munud o dawelwch yn Siambr y Cynulliad ac mae’r baneri tu allan i’r adeilad ym Mae Caerdydd wedi eu hanner gostwng.

Dywedodd Mr Jones ei fod yn disgwyl adroddiad llawn i’r ymchwiliad gael ei gyhoeddi fel bod “modd dysgu gwersi.”

Fe ychwanegodd ei bod yn naturiol, yn sgil trasiedi fel hyn, bod pobl am wybod beth a sut y digwyddodd y ddamwain, “ond nid dyma’r amser,” meddai.

Dywedodd bod Heddlu De Cymru yn arwain yr ymchwiliad ynghyd a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Aeth ymlaen i roi teyrnged i’r gwasanaethau brys a’r timau achub am eu gwaith “di-flino” ac i’r gymuned am eu help a chefnogaeth.

Roedd na deyrngedau gan arweinwyr y pleidiau eraill hefyd. Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru Andrew RT Davies bod yn rhaid cael “cefnogaeth ddigonol” gan y bwrdd iechyd lleol a’r awdurdodau lleol i helpu teuluoedd y glowyr.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones y byddai’r ymchwiliad yn ateb nifer o gwestiynau’r teuluoedd a’r gymuned ond na ddylid “rhuthro i wneud casgliadau” am y ddamwain ond yn hytrach,  dylid sicrhau bod y diwydiant glo yn un llawer mwy diogel i’r genhedlaeth nesaf.