Gallai gwyntoedd cryfion daro Cymru a chodi i gyflymdra o 70 milltir yr awr, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Maen nhw wedi cyhoeddi rhybudd melyn yn gynt na’r disgwyl yn sgil Storm Helene.
Mae disgwyl i’r storm daro ddydd Llun, ac mae’r rhybudd yn ei le o 6 o’r gloch nos Lun tan 8 o’r gloch fore Mawrth.
Gallai’r gwyntoedd achosi anafiadau a pheryglu bywydau, meddai’r Swyddfa Dywydd.
55 i 65 milltir yr awr fydd cyflymdra cychwynnol y gwyntoedd, meddai’r rhybudd, ond fe allen nhw godi i hyd at 70 milltir yr awr.
Mae’r rhybudd yn ei le drwy Gymru gyfan.