Dylai pawb sy’n siopa yn Waitrose, Porthaethwy fynd ati i gwyno am y ddarpariaeth Gymraeg yno, yn ôl un cwsmer sy’n croesi’r Fenai i siopa yno bob wythnos.
Mae Marred Glynn Jones wedi’i siomi’n arw fod yr ychydig arwyddion dwyieithog oedd i’w gweld yn y siop, wedi cael eu tynnu i lawr yn ddiweddar, ac arwyddion uniaith Saesneg wedi’u gosod yn eu lle.
Nid hi yw’r unig un i gwyno wrth yr archfarchnad, ac mae nifer o gwsmeriaid – merched yn bennaf – wedi bod yn dweud eu dweud ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Dyddiau yma, dydach chi ddim isio gorfod cwyno am hyn,” meddai Marred Glynn Jones wrth golwg360. “Mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Felly mae o’n siom bod rhywun gorfod cwyno.
“Er mai ym Mhenrhosgarnedd (ar gyrion Bangor) dw i’n byw, dw i’n hoff iawn o ymweld â’r archfarchnad bob wythnos er mwyn siopa a chymdeithasu â ffrindiau.
“Mae’r staff wastad yn hyfryd, ac mae llawer ohonyn nhw’n medru’r Gymraeg ac yn gwisgo bathodynnau i dynnu sylw siopwyr at hynny.
“Dw i’n teimlo bod o’n bwysig bod ni gyd yn cwyno pan mae pethau fel hyn yn digwydd.”
Mae Marred Glynn Jones yn dweud ei bod wedi cysylltu â Waitrose i gwyno am y sefyllfa a’n deall bod y cwmni yn ymchwilio i’r mater.
Deddfu?
Er ei bod yn annog pobol i gwyno, mae Marred Glynn Jones yn teimlo na ddylai fod angen i bobol wneud hynny, ac mae am weld cwmnïau’n ysgwyddo rhagor o gyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau Cymraeg.
“Mi fysa fo’n braf os bysa ‘na ddeddf sy’n gosod sylfaen glir i fusnesau preifat hefyd – ddim jest cyrff cyhoeddus,” meddai.
“Dylai bod yn ddyletswydd ar bob cwmni i ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Dw i ddim yn credu bod hynna’n ormod i ofyn yn y Gymru gyfoes.
Mae golwg360 wedi gofyn i Waitrose am ymateb.