Mae rhagolygon diweddaraf cwmni awyrennau Airbus yn darogan dyfodol diogel i 6,000 o weithwyr eu ffatri ym Mrychdyn, yn Sir y Fflint.

Bydd rhagolygon diweddaraf y cwmni awyrennau Ewropeaidd yn newyddion da i economi y gogledd ddwyrain, wrth iddyn nhw ddisgwyl i archebion awyrennau mwy na dwblu yn yr 20 mlynedd nesaf – gyda gwerth archebion ar draws y cwmni yn codi i dros £2.2 triliwn erbyn 2030.

Mewn cyhoeddiad ddoe, dywedodd y cwmni eu bod yn disgwyl archebion am 27,800 o awyrennau newydd erbyn 2030, a bod y diwydiant yn parhau i dyfu er gwaethaf sefyllfa economaidd bregus y byd.

Mae disgwyl y bydd 10,500 o’r awyrennau newydd hyn yn cael eu prynu i gymryd lle awyrennau hŷn sydd eisoes yn cael eu hedfan, gan fod y modelau newydd yn defnyddio llai o danwydd. Ond bydd y gweddill, medd y cwmni, yn mynd i ateb y galw cynyddol am deithio awyr. Mae disgwyl i draffig awyr mwy na dwblu rhwng nawr a 2030.

Yn ôl Airbus, mae’r cynnydd mewn traffig awyr yn rannol oherwydd bod poblogaeth y byd yn dal i gynyddu, ond mae hefyd oherwydd bod mwy o angen am gysylltiadau awyr mewn ardaloedd newydd o’r byd erbyn hyn.

Cymru’n cynhyrchu ar gyfer marchnadoedd Asia

Erbyn 2030, mae Airbus yn rhagweld y bydd 33% o deithwyr awyr yn hedfan o Asia a gwledydd y Môr Tawel, tra bod 23% yn dod o Ewrop, a 20% o Ogledd America.

“Mae’r diwydiant awyrennau yn rhan allweddol o’r economi ryngwladol sy’n bodoli heddiw,” meddai John Leahy, un o brif swyddogion Airbus, “ac oherwydd hynny mae mwy o bobol nag erioed eisau, ac angen, hedfan.

“Mae Airbus yn darparu’r datblygiadau diweddaraf ar gyfer y farchnad er mwyn ateb gofynion y cwmniau awyr a’r teithwyr sy’n bodoli nawr, ac mewn blynyddoedd i ddod.”