Mae’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy, wedi denu beirniadaeth hallt ar y cyfryngau cymdeithasol am ei safiad ar faterion trawsrywiol.

Daw’r feirniadaeth ar ffurf neges Facebook ar gyfrif grŵp ‘Welsh Independence Memes for Angry Welsh Teens’ – neges sydd wedi ennyn cannoedd o ymatebion.

Er mai lluniau chwareus sy’n cael eu postio gan y grŵp fel arfer, ddydd Sul (Medi 9) cafodd casgliad o screenshots o negeseuon Twitter eu rhannu ar y dudalen.

Neil McEvoy oedd awdur y negeseuon yma, ac ynddyn nhw mae’r ffigwr yn dweud ei fod yn “cefnogi unrhyw un sydd am newid rhyw” ond yn dadlau na ddylai “person â phidyn” gael yr hawl i ddefnyddio cyfleusterau ar gyfer menywod.

Ochr yn ochr â’r lluniau mae’r grŵp Facebook wedi rhannu neges yn beirniadu’r Aelod Cynulliad a’i sylwadau “atgas”.

Not a topic I talk about much. Read the comments and let me know if you think I am vile stating that spaces for women…

Posted by Neil McEvoy on Sunday, 9 September 2018

Rhyw

“Dw i’n gwybod bod dweud hyn yn gontrofersial, ond dydych chi methu dweud wrth rywun bod eu hunaniaeth rhyw yn anghywir,” meddai’r neges. “Dyw eich organau rhyw ddim yn diffinio’ch rhyw.

“O hyn ymlaen, gwrthodwn weithio â Neil mewn unrhyw gyd-destun. Dydyn ni ddim eisiau bod yn gysylltiedig o gwbwl â phobol sy’n meddwl fel hyn.

“Dydyn ni methu gadael i’r daliadau yma ddod yn rhan o’r ddadl tros annibyniaeth i Gymru (Dyna pam fyddwn ni ddim yn cefnogi [plaid wleidyddol] Ein Gwlad.”

Ymateb

Mae’r Aelod Cynulliad wedi ymateb i’r neges trwy ei rhannu ar ei gyfri Facebook yntau, ynghyd â sylwadau pellach ar y mater.

“Dylai bod gofodau ar gyfer menywod (ystafelloedd newid er enghraifft) yn cael eu defnyddio gan fenywod biolegol,” meddai Neil McEvoy. “Pobol heb bidyn.

“Mae rhyw unigolyn wedi’i seilio ar fioleg yn fy marn i. Dw i ddim yn deall pam bod hyn fater dadleuol.”

Not a topic I talk about much. Read the comments and let me know if you think I am vile stating that spaces for women…

Posted by Neil McEvoy on Sunday, 9 September 2018