Mae staff cynrychiolwyr y Palesteiniaid yn Washington wedi cael mis i adael y ddinas, wedi i lywodraeth Donald Trump orchymyn bod y PLO (Palestine Liberation Organisation) yn mynd.

Ond mae’r Palesteiniaid yn dweud na fydd hyn yn  eu rhwystro rhag dal ati i geisio sefydlu talaith gyda Jerwsalem yn brifddinas arni.

Fe gyhoeddodd John Bolton ar ran gweinyddiaeth Donald Trump fod y swyddfa yn Washington yn cael ei chau i lawr, a hynny oherwydd fod y PLO, yn ei eiriau ef, heb wneud digon o ymdrech i gynnal trafodaethau heddwch gydag Israel.

Ym mis Rhagfyr y llynedd, fe dorrodd yr arlywydd Palesteinaidd, Mahmoud Abbas, pob cyswllt gyda gweinyddiaeth Donald Trump, wedi i’r Unol Daleithiau gydnabod Jerwsalem yn brifddinas Israel.