Michael Dye
Mae dyn wedi ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o ladd cefnogwr pel-droed o Gymru yn dilyn ymosodiad tu allan i stadiwm Wembley.

Fe ymddangosodd Ian Mytton gerbron Llys y Goron Caerwrangon ar gyhuddiad o ddynladdiad, a chafodd ei gadw yn y ddalfa.

Bu farw Michael Dye ar ol iddo gael ei daro ar ei ben yn dilyn digwyddiad cyn gem Lloegr a Chymru ar 6 Medi. Cafodd Mr Dye, 44 oed, ei gludo i ysbyty Northwick Park ar ôl y digwyddiad am 7.20pm ond bu farw’n ddiweddarach.

Yn ystod y gwrandawiad heddiw, cafodd Mytton, 41, o Gateley Close, Redditch orchymyn i ymddangos gerbron Llys y Goron Caerwrangon neu lys yn Llundain ar 15 Tachwedd.

Wythnos diwethaf cafodd dyn 42 oed ei arestio yn Sir Gaerwrangon a’i ryddhau ar fechniaeth yn ddiweddarach, tra bod ymchwiliadau pellach yn parhau.

Cafodd tri dyn arall eu harestio mewn cysylltiad a marwolaeth Mr Dye ar ôl iddyn nhw fynd o’u gwirfodd eu hunain i orsaf yr heddlu yng Ngorllewin Mercia. Fe gawson nhw eu rhyddhau ar fechniaeth tan fis Tachwedd.

Yn ogystal, cafodd chwe dyn arall eu harestio yn fuan ar ôl marwolaeth Mr Dye – ni fydd unrhyw gamau pellach yn eu herbyn.