Mae Cyfarwyddwr Cyllid Cyngor Sir Ynys Môn wedi cael ei atal o’i waith tra bod ymchwiliad i fater disgyblu yn ei erbyn yn cael ei gynnal gan berson annibynnol, meddai’r Cyngor heddiw.

Mae’r cyngor wedi cadarnhau nad yw’r honiadau yn erbyn David Elis-Williams “o natur droseddol”.

Fe ddywedodd y cyngor fod Carl Sargeant, y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau, wedi dynodi Gill Lewis fel swyddog Adran 151 dros dro’r Cyngor o 16/09/2011 ymlaen.

“Mae’r ataliad heb ragfarn i’r ymchwiliad i mewn i’r honiadau yn ei erbyn, sydd ddim o natur droseddol,” meddai’r llefarydd.

“Oherwydd natur gyfrinachol y mater, ni fydd sylw pellach gan y Cyngor am y tro,” meddai’r Cyngor mewn datganiad.