Mae tair cangen Gymreig o’r Royal Bank of Scotland am fod yn cau fel rhan o gynlluniau i gau 54 o ganghennau ledled Prydain, gyda 258 o swyddi’n cael eu colli.
Y rhai sy’n cau yw canghennau Abertawe, Y Rhath yng Nghaerdydd a Phrestatyn.
Mae 62% o’r cwmni’n eiddo i’r trethdalwr ac mae’n ceisio lleihau nifer y banciau sy’n agos i’w gilydd yn ddaearyddol yn dilyn y penderfyniad na fydd cangen Williams & Glyn o’r busnes yn cael ei werthu.
Dywedodd y cwmni fod y penderfyniad yn un “anodd”, ond fod modd i gwsmeriaid droi at NatWest a swyddfa’r post i barhau â’u bancio.
Cafodd 162 o ganghennau eu cau’n gynharach eleni, gan arwain at golli 792 o swyddi.
Mae nifer o undebau wedi ymateb yn chwyrn i’r newyddion, gan fynegi pryder am yr effaith ar bobol oedrannus ac anabl.
Osgoi gwerthu Williams & Glyn
Y llynedd, llwyddodd RBS i osgoi gorchymyn i werthu Williams & Glyn fel rhan o reolau ar gymorth gwladol, ar ôl derbyn £45 biliwn o gymhorthdal gan Lywodraeth Prydain yn sgil yr argyfwng bancio.
Ers 2014, mae trafodion banc RBS yng Nghymru a Lloegr wedi gostwng 30%, a chynnydd o 53% yn nifer y bobol sy’n bancio ar y we. Bu cynnydd o 74% mewn trafodion ar ddyfeisiau symudol.