Mae 28 o bobol ar goll, wedi i gwch droi drosodd yn ardal afon Brahmputra yng ngogledd-ddwyrain India.
Mae’r heddlu’n dweud fod 40 o bobol yn cael eu cario yn y cwch i Gauhati, prifddinas talaith Assam, o bentref yr ochr draw i’r afon.
Mae 12 o bobol wedi cael eu hachub, yn ôl llefarydd ar ran yr awdurdodau, ac mae’r chwilio’n parhau am 28 o bobol eraill sydd ar goll.
Fe foddodd o cwch ar ôl taro twr ar safle adeiladu.
Mae glaw monswn wedi achosi llifogydd mewn rhannau helaeth o’r wlad. Mae mwy na 1,000 o bobol wedi marw mewn saith talaith ers i dymor y monswn ddechrau ym mis Mehefin.