Fydd dim angen talu i barcio yn yr un o ysbytai Cymru o heddiw (Medi 1) ymlaen.

Ysbytai Glangwili a’r Tywysog Philip yn Sir Gâr oedd yr ysbytai olaf yng Nghymru i godi tâl, ond mae hwnnw wedi’i ddileu bellach ar ôl i gytundebau â chwmni parcio ddod i ben, yn ôl adroddiadau.

Mae’n bolisi yng Nghymru ers mis Mawrth 2008 ac roedd disgwyl i’r mesur ddod i rym fis yn ddiweddarach, ond roedd y ddau ysbyty ynghlwm wrth gytundebau tan ddiwedd mis Awst eleni.

Daeth y tâl i ben yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd ym mis Mehefin, ar ôl i’w cytundeb nhw â chwmni Indigo hefyd ddod i ben.

Mesurau parcio newydd

O hyn ymlaen, fe fydd trefn newydd yn ei lle ar gyfer parcio mewn ysbytai yng Nghymru.

Fe fydd ymwelwyr yn cael dilysu eu tocynnau yn yr ysbyty er mwyn sicrhau na fydd unrhyw un arall yn cael parcio ar y safle oni bai bod ganddyn nhw reswm dros fod yno.

Bydd technoleg yn cael ei defnyddio er mwyn adnabod rhifau cofrestru ceir, ac unigolion yn parhau i oruchwylio meysydd parcio.

Mae’n rhaid talu o hyd i barcio mewn ysbytai yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.