Bydd cyfres o sesiynau yn cael eu cynnal yn Sir Conwy er mwyn rhoi blas i bobol ar dreftadaeth y sir.

Mae’r digwyddiadau hyn, sy’n cael eu harwain gan artistiaid, yn cael eu trefnu ledled y sir yn y cyfnod cyn y bydd Canolfan Ddiwylliant Conwy yn agor ym mis Hydref 2019.

Y nod yw rhoi cyflwyniad i gasgliadau’r sir a rhoi’r cyfle i bobol gymryd rhan ymarferol mewn gweithgareddau diwylliannol.

Y sesiynau hyd yn hyn

Mae sesiynau eisoes wedi cael ei gynnal gan swyddogion y ganolfan ledled y sir.

Rhan gyntaf y rheiny oedd rhoi cyfle i bobol greu delweddau allan o blastig fel rhan o wythnos llesiant yr RSPB yng Ngwarchodfa Natur Conwy.

Roedd yr eitemau hyn wedyn yn cael eu defnyddio i greu darluniau cynhanesyddol modern, a hynny ar ôl i bobol ddysgu am y darganfyddiadau yn Ogof Kendrick ar Ben y Gogarth ger Llandudno.

Gobaith y Ganolfan Ddiwylliant yw cynnal rhagor o sesiynau yn ystod y flwyddyn nesa’, cyn yr agoriad swyddogol ym mis Hydref 2019.

‘Profi treftadaeth trwy’r celfyddydau’

“Bydd rhan fawr o weithgareddau’r Ganolfan yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd i bobol gael profiad o dreftadaeth trwy gyfrwng y celfyddydau,” meddai Samantha Jones, y Swyddog Prosiect ar gyfer y Ganolfan Ddiwylliant.

“Mae ein gwaith ymgysylltu â’r gymuned hyd yn hyn wedi dangos fod pobol â’r diddordeb mwyaf mewn dysgu am dreftadaeth trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol ymarferol, ac felly mae’r sesiynau hyn yn darparu’r cymysgedd perffaith i gyfranogwyr.”