Mae cynlluniau i sefydlu canolfan arbrofi ceir ar safle Brwydr Maes Bosworth wedi ennyn gwrthwynebiad chwyrn gan haneswyr ac eraill.

Hyd yn hyn, mae mwy na 4,000 o bobol sydd wedi arwyddo deiseb ar-lein yn gwrthwynebu bwriad y cyngor lleol i gymeradwyo’r cynlluniau.

Mae cais wedi cael ei gyflwyno gan y cwmni peirianneg ceir, Horiba Mira, ac mae disgwyl y bydd y gwaith adeiladu ar y safle yn Swydd Gaerlŷr yn costio £26m.

Mae Cyngor Bwrdeistref Hinkley a Bosworth wedi cael ei gynghori i gymeradwyo’r cynlluniau, ond mae haneswyr lleol yn rhybuddio y bydd y datblygiad yn cael “effaith uniongyrchol” ar y safle.

Maen nhw hefyd yn dweud y bydd yn trawsnewid “cymeriad gwledig” y safle lle trechodd y gŵr o waed Cymreig, Harri Tudur, y brenin Richard III yn 1485 i ddod y Brenin Harri VII.

‘Colli hanes’

Mae’r corff hanesyddol Historic England hefyd wedi sgrifennu llythyr at yr awdurdod lleol yn mynegi eu pryderon ynghylch y datblygiad, er nad ydyn nhw’n nodi unrhyw wrthwynebiad penodol.

“Roedd Brwydr Maes Bosworth yn un o’r brwydrau mwyaf allweddol yn hanes Lloegr ac mae’n parhau i ennyn diddordeb ymhlith y cyhoedd,” meddai’r llythyr.

“Mae cynlluniau’r datblygiad yn strwythur sylweddol, ac fe fydd yn cael effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol trwy drawsnewid y cymeriad gwledig sy’n rhan o faes y frwydr.”