Mae rhan o’r A40 yn Sir Benfro wedi’i chau ar ôl i ddisel gael ei ollwng ar y ffordd.
Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, mae cyflenwad “sylweddol” o’r olew wedi’i ollwng ar y ddau gyfeiriad rhwng Pont Canaston a Hwlffordd, ger y clwb golff.
Mae cais wedi’i gyflwyno am gymorth wrth y gwasanaeth tân ac adran drafnidiaeth Cyngor Sir Benfro, meddai’r heddlu ymhellach.
Does dim manylion ynglŷn â phryd fydd y ffordd yn ailagor, a’r cyngor i deithwyr yw i yrru’n ofalus.