Mae ymddiriedolaeth y BBC wedi dweud wrth Golwg360 “nad yw’r newid yn y modd y caiff S4C ei hariannu yn golygu bod y BBC yn gallu nac yn bwriadu traflyncu S4C.”

“Mae BBC yn hollol ymrwymedig i ddarpariaeth Gymraeg ac i S4C sy’n olygyddol annibynnol,” meddai llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth y BBC wrth Golwg360.


Ymhen pedair blynedd, y BBC fydd yn dweud faint o arian fydd gan S4C i’w wario ar raglenni. Dyna sydd lawr mewn cytundeb rhwng y BBC a Llywodraeth Prydain, sydd wedi ei gyhoeddi gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Ond, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud ei bod yn dod yn fwyfwy amlwg mai “cymryd drosodd”  fydd y BBC – heb fod sicrwydd am “fformiwla ariannu deg” i’r sianel.

Maen nhw’n pryderu y bydd S4C yn dod yn “adran” o’r gorfforaeth. Maen nhw hefyd yn galw ar S4C i “dynnu allan o drafodaethau gyda’r BBC a’r DCMS.”

‘Tanseilio S4C’

“Gyda’r cyhoeddiad taw’r BBC fydd yn penderfynu ar lefel gyllido S4C ar ôl 2015, mae’n fwy amlwg nac erioed taw take over yw hwn, bod y BBC yn cymryd drosto S4C, mae’n hollol glir nawr y bydd S4C yn colli’i hannibyniaeth achos bydd y penderfyniadau’n mynd yn ôl i’r BBC a’r BBC fydd yn penderfynu lefel cyllido,” meddai Menna Machreth, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wth Golwg360.

“Wrth gwrs, mae pwysau’r toriadau arnyn nhw, felly os nad yw arian S4C yn cael ei ddiogelu, mi fydd yn hawdd iawn iddyn nhw dorri cyllideb S4C. Felly, mae’r sianel mewn argyfwng mawr nawr,”  meddai.

“Gyda’r gyllideb – bydd S4C methu darparu lefel y rhaglenni maen nhw’n wneud nawr ac mae eisiau i S4C ei hunain i gydnabod hynny.

“Mae eisiau i S4C dynnu allan o drafodaethau gyda’r BBC a’r DCSM nawr bod y BBC a’r DCMS wedi’u trywanu yn eu cefnau am yr ail waith gyda’r cynllun yma. Y tro cyntaf oedd llynedd, pan gyhoeddwyd y penderfyniadau gyntaf ond nawr am yr ail waith mae’r BBC a’r DCSM  wedi cyd gynllwynio i danseilio S4C yn llwyr,” meddai.

“Mae’n rhaid i S4C dynnu allan o’r trafodaethau a gwneud hynny yn glir,” meddai Menna Machreth. “Os mai’r BBC sy’n penderfynu ar lefel cyllideb S4C, nhw fydd yn rheoli S4C –­ bydd S4C yn troi i mewn i adran dan y BBC…” meddai.

“Ni ddim gyda dim byd yn erbyn bod arian S4C yn dod o arian trwydded teledu – ond mae’n rhaid iddo fod yn ring fenced. Mae’n rhaid bod fformiwla ariannu deg i S4C, bod yr arian yna’n ring fenced a bod hynny’n rhoi annibyniaeth i’r sianel. Heb hynny – mae’n  cymryd drosodd – ddim byd llai.”

‘Pryder’

Eisoes, mae S4C wedi dweud mewn datganiad eu bod yn “pryderu fod geiriad cytundeb y Llywodraeth gyda’r BBC yn datgan mai’r BBC fydd yn penderfynu cyllideb S4C ar ôl 2015,” meddai llefarydd ar ran y Sianel wythnos diwethaf.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo’r Gorfforaeth o “ddweud celwyddau” ac o ddod i “gytundeb twyllodrus” gyda’r Llywodraeth.

Maen nhw hefyd wedi galw ar Elan Closs Stephens i ystyried ei dyfodol gan ddweud bod Ymddiriedolaeth y BBC wedi gwthio penderfyniad a fydd yn rhoi dyfodol S4C yn y fantol a hynny heb ymgynghori gyda phobl Cymru.

Dywedodd Elan Closs Stephens wrth Golwg360 nad oedd hi’n fodlon ymateb i alwadau Cymdeithas yr Iaith gan bwysleisio mai dim ond diwedd yr hyn sydd wedi bod yn wybyddus ers hydref y llynedd oedd y cytundeb yma.