Cafodd tri o bobol eu cludo i’r ysbyty mewn hofrennydd yn dilyn gwrthdrawiad yn Y Bala brynhawn Sadwrn.

Fe ddigwyddod am oddeutu 5.15yh ar ffordd B4391 yn ardal Pont Cwm Pydew, ac fe fu’n rhaid i’r cleifion gael eu torri’n rhydd.

Cawson nhw eu cludo i’r ysbyty yn Stoke, ac fe gafodd un person arall ei gludo i Ysbyty Maelor Wrecsam.

Does dim gwybodaeth am gyflwr y tri ar hyn o bryd.