Charles Breslin - yr hyna' o'r pedwar (lluniau trwy alw'r heddlu)
Mae cronfa goffa glowyr y Gleision wedi cael hwb mawr wrth i’r Llywodraeth gyhoeddi y bydd yn gymwys ar gyfer arian Cymorth Rhodd.

Mae hynny’n golygu y bydd gwerth treth incwm yn cael ei ychwanegu at bob rhodd gan rywun sy’n talu treth incwm ac yn rhoi eu manylion.

Fe ddaeth y cyhoeddiad heddiw gan Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, ar ôl cais gan noddwyr y Gronfa a’i sylfaenydd, yr AS Peter Hain.

Cyhoeddi lluniau a theyrngedau


Phillip Hill - wedi colli mab eleni
Yn y cyfamser, mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi lluniau o’r pedwar glöwr a theyrngedau gan eu teuluoedd.

Fe ddatgelodd teulu Phillip Hill, 45 oed, eu bod wedi colli un o’u meibion hefyd ym mis Mawrth eleni ac maen nhw wedi apelio ar i’r cyfryngau roi’r gorau i geisio cysylltu â nhw.

Mae’r teuluoedd i gyd wedi diolch i’r gwasanaethau achub ac i’r gwirfoddolwyr a phobol leol a fu’n eu cefnogi yn ystod yr ymdrech i achub y pedwar o bwll Tarenni Gleision.


Garry Jenkins - yr ieuenga'
‘Yr oriau gwaetha’

Yr oriau hynny’n aros yn y Ganolfan Gymdeithasol yn Rhos yn Nghwm Tawe oedd y rhai mwya’ blinderog erioed, meddai teulu’r hyna’ o’r pedwar, Charles Breslin. Roedd ef a’i wraig, Mavis, newydd ddathlu 40 mlynedd o briodas ac newydd orffen adeiladu “cartref eu breuddwydion” yng Nghwmllynfell.

Ac fe dalodd man Garry Jenkins, Alex, deyrnged iddo yntau, yr ieuenga’ o’r rhai a fu farw. “Roedd Dad yn grêt o chwaraewr dartiau ac yn grêt o reidiwr motor-beics ond, yn fwy na dim, roedd yn grêt o dad.”

Yng ngeiriau teulu’r pedwerydd, David ‘Dai Bull’ Powell, roedd yn llawn hwyl a hefyd yn lowr balch.


Dai Powell - glowr balch