Mae canlyniadau TGAU Cymru yn dangos bod cwymp eto wedi bod yn nifer y disgyblion a wnaeth cael gradd A*-C .
61.6% wnaeth llwyddo i gael y graddau uchaf, o gymharu â 62.8% yn 2017, a’r ganran isaf ers 2005.
Mae cyfran y disgyblion sydd wedi ennill gradd A*-A yn eu harholiadau TGAU wedi cynyddu ychydig oddi ar y llynedd.
18.5% yw’r ganran o ddisgyblion a gafodd y graddau hynny, o gymharu â 17.9% y llynedd. Mae’r nifer yn dal i fod yn llai na dwy flynedd yn ôl, pan oedd y gyfran yn 19.4%.
Bu cynnydd o 50% yn y niferoedd a gofrestrwyd ar gyfer sefyll arholiad Gwyddoniaeth, ar ôl i’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, ddweud wrth ysgolion bod gormod o ddisgyblion yn sefyll y cymwysterau gwyddoniaeth galwedigaethol [BTEC] yn hytrach na TGAU.
Mae’r nifer sy’n cyrraedd A* wedi cynyddu mewn gwyddoniaeth, tra bod y nifer sy’n ennill graddau A*-C yn parhau’n sefydlog.
Mae mesurau’r Llywodraeth i annog ysgolion i beidio â chofrestru myfyrwyr yn gynnar oni bai eu bod nhw’n barod wedi cael effaith, gyda gostyngiad yn nifer y disgyblion sy’n cofrestru i sefyll arholiad yn gynnar.
“Canlyniadau ond yn rhan o’r darlun”
“Hoffwn longyfarch y disgyblion sy’n cael eu canlyniadau heddiw a diolch i’r athrawon sydd wedi gweithio mor galed i ddarparu’r cymwysterau newydd hyn,” meddai Kirsty Williams.
“Mae’r canlyniadau heddiw, wrth gwrs, ond yn un rhan o ddarlun a fydd yn cael ei roi at ei gilydd yn yr hydref,” meddai Ysgrifennydd y Cabinet.
“Mae’r arfer o gofrestru disgyblion yn gynnar wedi effeithio ar rai o’r canlyniadau hyn a dyma pam y bydd y darlun terfynol yn newid.
“Gellir gweld hyn mewn blynyddoedd blaenorol lle’r oedd canlyniadau’r hydref sawl pwynt canran yn uwch na’r data a gyhoeddwyd yn yr haf.”