Llosgydd gwastraff
Heno bydd rhaglen Taro 9 yn ymchwilio i gynlluniau dadleuol i adeiladu llosgydd gwastraff ger Merthyr Tudful.

Bydd y rhaglen materion cyfoes ]yn teithio i’r Unol Daleithiau  i ddarganfod mwy am y cwmni y tu ôl i’r cynlluniau.

Mae’r datblygwyr, Covanta Energy eisiau adeiladu adnodd  creu egni o wastraff, Brig y Cwm, ger tref Merthyr.

Bob blwyddyn, byddai’n llosgi 750,000 tunnell o wastraff na all gael ei ailgylchu o gartrefi a busnesau gan gynhyrchu digon o drydan i gyflenwi pob cartref ym mwrdeistrefi sir  Merthyr Tudful a Chaerffili.

Ond mae’r cynlluniau yn wynebu gwrthwynebiad sylweddol yn lleol.

Connecticut

Bydd ei hymchwiliad yn mynd a rhaglen Taro Naw i dref Wallingford, yn nhalaith Connecticut yn yr Unol Daleithiau.

Yng Ngorffennaf eleni daeth Swyddfa Twrnai Cyffredinol Connecticut i setliad llys gyda chwmni Covanta, ynglŷn â thorri rheolau amgylcheddol yn eu safle yn y dref. Roedd lefelau diocsin dros ddwywaith y cyfanswm a ganiateir. Bu’n rhaid i’r cwmni dalu dirwy o $400,000. Ond dyma’r eildro i lefelau allyriant diocsin gael eu torri ar y safle.

“Roedd maint y tor-rheol… a hefyd pa mor aml y digwyddodd yn ystyriaeth, ac roedd y ffaith bod dau ddigwyddiad wedi bod o fewn tair blynedd yn achosi hyd yn oed mwy o bryder i ni…” meddai’r Is-Dwrnai Sharon Seligman a fu’n ymdrin â’r setliad diweddaraf wrth y rhaglen.

Fe gaeodd y cwmni un o’r unedau yn y safle am flwyddyn er mwyn ymchwilio beth aeth o’i le. Mae’r cwmni yn mynnu eu bod yn cydymffurfio â’r rheolau 99.9% o’r amser yn eu holl unedau ar draws y UD.

Maen nhw hefyd yn pwysleisio nad oedd yr allyriadau diocsin yn Wallingford yn creu unrhyw fath o fygythiad i iechyd y cyhoedd.

“Dyw methiant ddim yn dderbyniol i ni,” meddai Paul Gilman, Prif Swyddog cynnaladwyaeth Covanta Energy ar y rhaglen.

“Ni ein hunain yw ein beirniaid halltaf a chyn belled ac rydyn ni yn y cwestiwn fe wnaethon ni’n siŵr ein bod yn mynd ati i gywiro’r broblem, yn wir yn y ddau achos, ni ddaeth o hyd i’r broblem, ni wnaeth riportio’r broblem a ni ddatrysodd y broblem..  Y bobol cynta’ i ni gysylltu â nhw ar ôl i ni gysylltu â’r asiantaeth reolaeth oedd y swyddogion tref lleol a’r papurau i adael iddyn nhw wybod beth ddigwyddodd a beth roedden ni am ei wneud am y peth.”

Pryder am record amgylcheddol

Ond mae ymgyrchwyr yng Nghymru yn pryderu am record amgylcheddol y cwmni. Mae Meryl Darkins yn byw bum milltir i ffwrdd o’r safle posib yn Nhredegar, ac yn ymgyrchu yn erbyn y datblygiad.

Mae Meryl Darkins yn dioddef yn barod o gyflwr ar ei hysgyfaint sy’n golygu bod rhaid iddi gymryd deg tabled y dydd.

Mae’n poeni am yr effaith allai unrhyw allyriannau ei gael ar ei hiechyd bregus.

“Bob tro rwy’n cael annwyd, fi’n cymeryd oesoedd i ddod drosto fe a dwi byth cystal â beth oeddwn i o’r blaen,” meddai. “Ac felly pryd bynnag mae unrhyw diocsins neu rhywbeth fel ‘ny ma’ nhw yn cael yr un effaith ar fy ysgyfaint ac felly fe fyddai’n salach nag oeddwn i o’r blaen.”

Bydd Taro 9 yn cael ei darlledu heno, Medi 19, BBC Cymru ar S4C, 9.30pm.