Hogyn o Ben Llŷn yw enillydd Cadair y brifwyl yng Nghaerdydd eleni.
Daw Gruffudd Eifion Owen yn 32 oed ac yn wreiddiol o Bwllheli, ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd lle mae’n olygydd sgriptiau Pobol y Cwm.
Mae wedi cael wythnos lwyddiannus, gan ennill stôl y Siwper Stomp ar lwyfan y Pafiliwn nos Lun, a’r brif wobr yn y Stomp Werin yn Nhŷ Gwerin nos Iau.
Bellach, mae wedi cipio Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol am awdl ar y testun ‘Porth’.
Y beirniaid arall oedd Ceri Wyn Jones, Emyr Davies a Rhys Iorwerth.
“Mi aeth yr awdl hon â gwynt y tri ohono’ ni – nid am ei bod hi’n goeth a chyfoethog, nid am ei bod hi’n eithriadol o gywrain ac amlhaenog – ond am ei bod hi mor syml o dreiddgar yn y ffordd mae’n ymdrin â phrofiade sydd yn ffordd o fyw i’r genhedleth ddigidol,” meddai un o’r beirniaid, Ceri Wyn Jones.