Adam Price - sefyll am y Cynulliad yn 2016
Mae’r gwleidydd alltud, Adam Price, wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu cynnig ei enw i sefyll yn etholiadau nesa’r Cynulliad.

Fe fyddai hynny’n golygu ei fod yn chwilio am enwebiad ar gyfer etholaeth neu i fod ar un o restrau rhanbarthol Plaid Cymru yn 2016.

Ac mae wedi dweud y bydd yn “gryfach” os daw cyfle i gynnig am arweinyddiaeth y Blaid yn y dyfodol.

‘Gallu cyfrannu’n well’

Er hynny, ac yntau allan yn yr Unol Daleithiau ar ysgoloriaeth ymchwil a darlithio, fe ddywedodd wrth Dewi Llwyd ar Radio Cymru nad oedd ganddo unrhyw uchelgais penodol i fod yn Brif Weinidog.

“Fy hoff swydd fyddai bod yn weinidog yr economi,” meddai. “Beth fyddai yn fy mhoeni fyddai methu â chyfrannu eto i’r Gymru dw i eisiau ei gweld.”

Wrth fynd i’r Unol Daleithiau – i Brifysgol Havard a Boston – fe ddywedodd ei fod wedi cael cyfle i weithio gyda rhai o “feddyliau gorau’r byd” ar economi Cymru ac y gallai hynny fod o fantais pe bai’n cynnig i fod yn arweinydd yn y dyfodol.

“Os daw yna gyfle eto, fydda’ i’n gryfach o ran yr hyn rwy’n gallu ei gyfrannu,” meddai. “Ro’n i wedi penderfynu, os o’n i esiau cyfrannu eto i’r dyfodol oedd rhaid bod gyda fi rywbeth i seilio;r cyfraniad yna arno fe.”

Eisiau gweld menyw’n arwain

Roedd llawer o aelodau Plaid Cymru wedi tybio mai Adam Price fyddai arweinydd nesa’ Plaid Cymru, ond fe roddodd y gorau i’w sedd yn Nhŷ’r Cyffredin adeg yr etholiad diwetha’.

Yn awr, mae wedi gwrthod dweud pwy fydd yn cael ei bleidlais pan fydd y Blaid yn dewis arweinydd yn y flwyddyn newydd ond fe ddywedodd eto y byddai’n dda gweld menyw yn ei harwain am y tro cynta’.