Mae prifardd a chyfryngwr o’r Bala yn dweud iddo ragfynegi buddugoliaeth enillydd y Goron ddydd Llun – hanner awr cyn i’r bardd buddugol godi ar ei thraed.
Roedd Elwyn Edwards a’i wraig yn eistedd yn gwylio ptof setemoni awditoriwm Canolfan y Mileniwm, pan welodd o Catrin Dafydd yn sefyll ar ei thraed i ganiad y corn gwlad.
Ond roedd hynny hanner awr cyn i’r peth ddigwydd go iawn, ac i Catrin Dafydd esgyn i’r llwyfan a chael ei gwobrwyo gan yr Archdderydd, Geraint Llifon.
Mae Elwyn Edwards yn cael ei gydnabod yn gyfryngwr, sy’n mybd i’r afael ag ysbrydion mewn tai ac adeiladau. Yn ystod prifwyl Y Bala yn 1997, roedd yn honni iddo ‘weld’ milwr Rhufeinig yn un rhan o’r Maes ar gaeau stad y Rhiwlas.
Hyd yn hyn, does ganddo ddim enw i’w gynnig cyn seremoni’r Cadeirio yfory.